Crynodeb o gyfarfod 29 Mawrth 2017 y Grŵp Trawsbleidiol ar Nychdod Cyhyrol a Chyflyrau Niwrogyhyrol
Aelodau Cynulliad yn bresennol
Bethan Jenkins AC, Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar
Nychdod Cyhyrol a Chyflyrau Niwrogyhyrol
Mike Hedges AC
David Rees AC
Y wybodaeth ddiweddaraf gan Muscular Dystrophy UK, Ysgrifenyddiaeth y Grŵp Trawsbleidiol
· Triniaethau newydd: Exondys 51 ar gyfer nychdod cyhyrol a nusinersen ar gyfer atroffi cyhyrol y meingefn
· Cydnabod bylchau mewn capasiti treialon clinigol mewn canolfannau cyhyrol yn y DU, a gweithio gyda NIHR i fynd i'r afael â'r diffyg
· Y wybodaeth ddiweddaraf o ran gwella derbyn cleifion i'r ysbyty - ymateb positif i rôl cardiau rhybudd a chynlluniau gofal oherwydd y trosiant cyflym o ran staff
· Argymhelliad ffisiotherapi - peidio â chwilio am esgyrn wedi torri yn unig
· Tynnu sylw at nychdod cyhyrol er mwyn gallu ymateb yn well mewn achos brys
· Enghraifft o adborth - heb gael sylw mewn adran ddamweiniau ac achosion brys wrth ddangos cerdyn gwybodaeth cyflwr - mae angen addysgu adrannau damweiniau ac achosion brys
· Dylanwadu drwy fforwm cleifion - annog cyfranogiad meddygon teulu yn y modiwl meddygon teulu ar-lein
· Llwybr at feddygon teulu drwy wefan GP Un
Y diweddaraf am Fy Ngofal - Dr Mark Rogers
· Cynllun gofal brys - ar bapur ar hyn o bryd, ond wrthi'n cael ei dreialu'n electronig ar ffurf cwmwl
· Cwymplenni i ddangos gwybodaeth
· Hawdd ei ddiweddaru gan ei fod yn electronig
· Mae'n ddefnyddiol gweld pa wybodaeth sydd angen ei chasglu
Y diweddaraf gan Dr Tracey Cooper, Cadeirydd Rhwydwaith Niwrogyhyrol Cymru
· Gwieithio'n agos gyda gweithwyr iechyd porffesiynol a Muscular Dystrophy UK i ddatblygu Rhwydwaith Niwrogyhyrol Cymru
· Proses yr adolygiad gan gymheiriaid â Rhwydweithiau eraill
· Recriwtio ar gyfer cymorth ffisiotherapi arbenigol yn ne Cymru - y gobaith yw y bydd deiliad swydd newydd wedi'i benodi erbyn mis Mai/Mehefin
· Cynhelir cyfweliadau cynghorwyr gofal ymhen ychydig wythnosau - 3 swydd, 20 awr yr wythnos ym mhob un o dri rhanbarth Cymru
· Mae cynrychiolwyr y rhwydweithiau yn cofnodi negeseuon fideo er mwyn pwysleisio pa mor ddeniadol yw'r swyddi fel rhan o'r rhwydwaith cyffredinol
· Mae cymorth gweinyddol ychwanegol wedi bod yn ddefnyddiol i gynghorwyr gofal
· Mae swm bach o gyllid cadair olwyn ychwanegol ar gael yn dilyn llithriant mewn cyllid
· Rydym yn parhau i ymgysylltu â Byrddau Iechyd a Phwyllgor Gwasanaethau Arbenigol Iechyd Cymru
· Mae trafodaethau â phartneriaid y GIG yn parhau
· Diwrnod meincnodi'r rhwydwaith ddydd Iau 19 Mai gyda'r Scottish Muscle Network a'r De Ddwyrain - cyflwyniadau a gweithdai gyda chomisiynwyr, gweithwyr iechyd proffesiynol a chynrychiolwyr cleifion
· Mae angen sail dystiolaeth gadarnach a bydd meincnodi yn cynorthwyo'r broses hon
· Gall cynrychiolwyr cleifion gysylltu â Rebecca i gael bod yn bresennol
· Ymwybyddiaeth o ofal niwrogyhyrol ymysg Prif Weithredwyr Byrddau Iechyd
· Cyfarfodydd strwythuredig rheolaidd aml-ddisgyblaethol yn digwydd ar gyfer cynorthwyo timau
Pwyntiau trafod
· Dim man cyswllt ar gyfer ffisiotherapi ac mae'n anodd cael cefnogaeth barhaol - cyfeiriwyd yn ôl at y meddyg teulu ac ar restrau aros hir
· Mae angen parhau i weld ffisiotherapydd cymunedol
· Newid meddylfryd gweithwyr iechyd proffesiynol sy'n labelu cyflwr fel rhywbeth i'w weld gan neb ond arbenigwyr bob amser
· Mae'n bwysig nodi y gellir arbed arian drwy fuddsoddi
· Mentrau gofal iechyd darbodus - ystyried ymyrraeth fuan
· Cyflwyno busnes cryf mewn lleoliadau gwleidyddol a gofal iechyd
· Pwysleisio'r diffyg cymharol o ran cyfleusterau ac felly dynnu sylw at bwysigrwydd ffisiotherapi ar gyfer ansawdd bywyd a byw'n annibynnol.